
I
I
I
I
I
\/
|
Cefnogi Twristiaeth Gynaliadwy Fe fu Planed (yr hen SPARC) yn ymwneud â datblygu a hyrwyddo twristiaeth gwledig a chynaliadwy ers dros ddeng mlynedd. Mae'n gweithredu fesul ardal trwy fabwysiadu agwedd sy'n cydbwyso yr angen i gynyddu gwariant yr ymwelwyr, gydol y flwyddyn, ar y cyd â'r angen i ddiogelu a hyrwyddo y diwylliant, yr etifeddiaeth a'r amgylchedd lleol. Yn 2002, pan sefydlwyd PLANED, cymerwyd amser i adolygu gweithgarwch SPARC ym maes twristiaeth ac i wneud argymhellion ar sut i gario mlaen i gyflawni'r gwaith. Gwnaed hyn gyda chymorth Cwmni Twristiaeth Cyf ac fe nodwyd hyn yn adroddiad `Adolygu Twristiaeth a Strategaeth 2002 SPARC/PLANED'. Mae'r argymhellion a wnaed yn adroddiad y Cwmni Twristiaeth bellach wedi eu mireinio ac fe gytunwyd ar gyfres o amcanion strategol wedi eu hadolygu gan Grwp Gweithredu Twristiaeth PLANED* i'w cynnwys yn niweddariad Cynllun Busnes PLANED (2004-6): Amcanion Allweddol:
|
|---|