|
Lonydd Glas Sir Benfro
Mae Prosiect Lonydd Glas wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth sefydlu rhwydwaith o ffyrdd a llwybrau o ansawdd uchel, wedi'u cysylltu â thrafnidaeth gyhoeddus yn Ne Benfro. Rhoddwyd hefyd ffocws twristiaeth wledig a chysylltiadau â strategaeth dwristiaeth PLANED. Yn 2000 sefydlwyd Partneriaeth y Teithiau Gwyrdd, partneriaeth annibynnol yn cynnwys consortiwm o gyrff yn Sir Benfro: PLANED, Cyngor Sir Penfro, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Amgylchedd Cymru a Grwp Mynediad Sir Benfro. Mae Fforwm Ymgynghorol ehangach yn cynnwys busnesau a sefydliadau lleol. Nôd Lonydd Glas yw hyrwyddo mynediad i bawb i gefn gwlad Sir Benfro mewn modd sydd yn gynaliadwy yn amgylcheddol. Am wybodaeth bellach ar Lonydd Glas, ymwelwch â www.pembrokeshiregreenways.co.uk
|
|---|