Teithio
a Cherdded
Detholiad o deithiau
cerdded cylch a syth o wahanol hyd sy’n dechrau a gorffen wrth
safle bws neu orsaf rheilffordd.
Archwilio cefn gwlad prydferth Sir Benfro heb angen dod â’ch
car.
Teithiau
Cerdded Gorsaf i Orsaf
Hendy-gwyn
ar Dâf i Arberth a Hendy-gwyn ar Dâf i Glunderwen
– Mae’r daith hon yn 8.5 milltir/13.4cm o hyd. Mae’n
arwain o Orsaf Hendy-gwyn ar Dâf ar draws y dyffryn i Landdewi
Efelffre ac ymlaen naill ai i Arberth neu Glunderwen.
Great
Western – Aberdaugleddau i Johnston – Mae’r
daith hon yn 10.75 milltir/17cm o hyd. Mae’n dechrau yn Aberdaugleddau
a dilyn Llwybr Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro i Neyland cyn troi i’r
tir i Johnston.
Cestyll,
Clogwyni a Chromlechi - Maenorbyr i Benalun - Mae’r
daith yn 7.5 milltir/12cm o hyd. Mae’n dechrau yng Ngorsaf Maenorbyr
ac arwain i’r de mor bell â’r arfordir o ble mae’n
dilyn Llwybr Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro i Benalun.
Cefn
Gwlad a’r Arfordir - Taith Gylch Gorsaf Saundersfoot -
Mae’r daith gyfan yn 15 milltir/23.8cm ond gellir cerdded gan
ddefnyddio’r rheilffordd i ddychwelyd. Mae’r llwybr yn dechrau
yng Ngorsaf Saundersfoot ac arwain i’r pentrefi hanesyddol East
Williamston a Phenalun cyn dilyn Llwybr Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro
i’r dref lan môr Dinbych-y-pysgod a dychwelyd i Saundersfoot.
Teithiau
Gorsaf a Llwybrau Bysys
Y
Cleddau Dawel – Hwlffordd i Langwm – Mae’r
daith hon yn 7.2 milltir/11.5cm o hyd. Yn dechrau yn Hwlffordd, mae’r
llwybr yn dilyn glannau tawel yr afon Cleddau Wen mor bell â Hook
a Llangwm.
Y
Ddyfrffordd Gudd – Arberth i Gei Cresswell –
Mae’r llwybr yn 10.5 milltir/16.8cm o hyd. Mae’r daith yn
dechrau yn Arberth ac arwain tua'r dwyrain drwy goedwigoedd deri i Felin
Blackpool cyn troi tua’r de a gorffen yng Nghei Creswell ar lannau’r
Cleddau Ddu.
Palasau
a Phyllau - Landyfái i Bosherston – Mae’r
llwybr hwn yn 8.4 milltir/13.4cm o hyd. Ar ôl dechrau yn Llandyfái,
mae’r daith yn arwain i Freshwater East, o ble mae’n dilyn
Llwybr Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro i Gei Stangbwll a Bae Barafundle
cyn dod i ben ger Llynnoedd Lilïau Bosherston.
Teithiau
Cerdded Llwybrau Bysys
Llynnoedd
a Ffynhonnau - Llys-y-frân i Rosebush - Mae’r
llwybr yn 5 milltir/8cm o hyd. Mae’r daith yn dechrau yn Llys-y-frân
a dilyn ffin y gronfa ddwr cyn parhau mor bell â Bernard’s
Well a Rosebush.
Y
Tri Chopa - Taith Gylch Mynachlog-Ddu - 6 milltir/9.6km - Taith Gylch
Rosebush - 5 milltir/8cm. Cysylltir y ddwy daith hyn gan
Grib y Preselau gyda golygfeydd aruthrol ar draws y dirwedd o’i
chwmpas.
Taith
Gylch Llandudoch – Mae’r llwybr hwn yn 12.3
milltir/19.7cm o hyd. Ar ôl dechrau ym mhentref hynafol Llandudoch,
mae’r daith yn mynd heibio i Draeth Poppit. Mae llwybr llygad
ond mae’r brif daith yn parhau mor bell â Phenrhyn Cemaes
o ble mae’n dilyn Llwybr Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro i Graig
cyn troi i’r tir i Gipyn a dychwelyd i Landudoch.