Offeryn Datblygu Cynaliadwy gyda Ffocws Cymunedol

Cefndir

PLANED - Menter integredig dros ddatblygu gwledig dan arweiniad y gymuned, ac sy’n gweithredu yn Sir Penfro, Gorllewin Cymru. Rydym yn gweithio gyda phobl leol i’w helpu i chwarae rhan fwy sylweddol wrth wella ansawdd eu hardal: - yn gymdeithasol, amgylcheddol, yn economaidd a diwylliannol.

Nod PLANED yw datblygu cymunedau lleol, cadarn. Mae Fforymau Cymunedol yn darparu strwythur a mecanwaith ar gyfer adeiladu ar gyfleoedd i’w cynnal gan bobl leol. Mae Cynlluniau Gweithredu Lleol sy’n cael eu datblygu a’u cadarnhau gan y gymuned yn cyflwyno gweledigaeth ar gyfer eu dyfodol a strwythur sy’n eu galluogi i symud ymlaen.

Yng Nghymru, mae PLANED wedi arloesi’r defnydd o offerynnau cyfranogi i annog cymunedau lleol i gynllunio ar gyfer eu dyfodol e.e. “Archwilio’r Dyfodol” neu “Llenwi’r Bylchau”. Yn 2005, dymuniad PLANED oedd adeiladau ar y profiad hwn a datblygu prosesau newydd i annog cymunedau i atgyfnerthu dealltwriaeth a brwdfrydedd cymunedol ar gyfer byw’n gynaliadwy a datblygu cynaliadwy lleol.

Gyda chyllid gan ystod eang o fudiadau - Llywodraeth Cynulliad Cymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Awdurdod Datblygu Cymru, Ymddiriedolaeth Carnegie a’r Undeb Ewropeaidd, aeth PLANED ati i ddatblygu “offeryn” proses sy’n hawdd i’w ddefnyddio i helpu cymunedau i ddeall datblygu cynaliadwy gan ei ymgorffori wrth gynllunio a datblygu prosiectau cymunedol.

Drwy gynyddu gallu pobl leol i gymryd rhan yn natblygiad datrysiadau ar gyfer datblygu cynaliadwy a byw’n gynaliadwy, ymhen amser bydd ganddynt yr hyder i rwydweithio, ymgymryd â phrosiectau a’u rheoli, a chynnal y momentwm a grëwyd. Felly, nod cyffredinol y prosiect oedd helpu i ddatblygu gallu unigolion/grwpiau o fewn cymunedau i gymryd rhan a chymryd cyfrifoldeb am ddatblygiad yr ardal yn y tymor hir

Y syniad hefyd oedd galluogi partneriaid cyllido allweddol i ddefnyddio’r offeryn i asesu cynaladwyedd prosiectau cymunedol wrth archwilio ceisiadau am gyllid. Gobeithiwyd y byddai modd ymgorffori’r broses i feini prawf cynllun a chyllid yn y tymor hir.

Cafodd yr offeryn/proses ei dreialu gydag ystod o gymunedau yn Sir Benfro a oedd eisoes, neu ar fin cymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol yn arwain at Gynllun Gweithredu Cymunedol Lleol.

Gwahoddwyd nifer o bartneriaid cyllido a chefnogaeth i eistedd ar y panel cynghori gan gynnwys Cyngor Cefn Gwlad Cymru (CCGC), Amgylchedd Cymru (AC), Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro (APCAP), Cyngor Sir Penfro (CSP).

Mae’r panel cynghori wedi cwrdd pedair o weithiau i drafod cynnydd ac asesu effeithiolrwydd y meini prawf ar gyfer dethol prosiectau.


Cynnydd hyd yn hyn
Datblygu Offeryn Cynaladwyedd

Fe wnaeth PLANED gomisiynu’r New Economics Foundation (NEF) i gynorthwyo â dyluniad yr offeryn a fyddai’n diwallu’r amcanion a ganlyn:-

Cafodd y Pecyn cymorth sydd yn gyfres o gardiau dwyieithog (Cymraeg a Saesneg) yn y bôn, ei ddatblygu o gysyniad a ddyfeisiwyd gan y New Economics Foundation (NEF). Mae’r cardiau, fel rhan o Weithdai Creu Gweledigaeth ehangach yn galluogi cyfranogwyr i archwilio datblygu cynaliadwy, ynghyd â’r materion cysylltiedig, ac wrth gynllunio, datblygu prosiectau arfaethedig mewn ffordd sy'n fwy cynaliadwy.

Mae’r offeryn erbyn hyn wedi cael ei beilota a’i ddefnyddio mewn dros 20 o gymunedau: yn ystod y broses Creu gweledigaeth neu fel gweithdy ar ei ben ei hun i archwilio a datblygu nifer o gynigion ar gyfer prosiectau yn eu Cynlluniau Gweithredu. Gofynnwyd i gyfranogwyr am adborth ynghylch y gweithdai, ac mae’n amlwg bod defnyddio’r offeryn adeg gweithgareddau penodol yn ysgogi cryn dipyn o ddiddordeb a thrafodaethau ac yn annog pobl i feddwl mewn ffordd sy'n fwy cynaliadwy.

Pecyn Cymorth Angle, Hydref 2007 Ymarfer Creu gweledigaeth Llanbedr Efelffre Gorffennaf 07
Pecyn Cymorth Angle, Hydref 2007 Ymarfer Creu gweledigaeth Llanbedr Efelffre Gorffennaf 07

Gwahoddwyd PLANED i gynnal gweithdy’n ymwneud â’r offeryn, fel rhan o Environet: Cynhadledd Amgylchedd Cymru ar gyfer Cymru gyfan. Roedd yn llwyddiannus iawn a chafwyd y cyfle i dreialu’r Pecyn Cymorth ymhlith ystod eang o bobl - daeth fynychwyr o gymunedau sy’n wahanol o ran cefndiroedd, sefyllfaoedd ac amgylcheddau. Fe wnaeth hyn hefyd lywio datblygiad yr Offeryn. Daeth llythyr i law yn gwerthfawrogi gwerth yr offeryn. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru ac eraill wedi datgan diddordeb yn yr offeryn.

Cynhaliwyd cyflwyniad, ac arddangoswyd yr Offeryn adeg Cynhadledd Agoriadol prosiect Erthygl 6 yr UE ‘Harneisio Cyfalaf Gwledig’ a fynychwyd gan gynrychiolwyr o Iwerddon, Sweden a Chymru. Ystyriwyd yr offeryn yn ddefnyddiol iawn ymhlith y cyfranogwyr.

Cyflwynwyd y Pecyn Cymorth hefyd adeg gweithdy yn Ysgol Haf Euroacademy yng Nghrete, yma eto fe wnaeth cynrychiolwyr o Hwngari, Sbaen, Yr Eidal a’r Ffindir ddatgan bod y broses yn arloesol a defnyddiol iawn.

Ar ôl i Perry Walker o NEF orffen ysgrifennu Canllaw’r Offeryn Cynaladwyedd, mae PLANED yn mynd i fformatio’r canllaw gan ychwanegu darluniau ac yna caiff ei gyfieithu i’r Gymraeg o fewn yr wythnosau nesaf.

Cyhoeddwyd yr offeryn ar wefan Cynnal Cymru, fe wnaeth hyn sbarduno cryn ddiddordeb ac o ganlyniad mae CCC, Amgylchedd Cymru a PLANED yn cynllunio gweithdy hyfforddi yn y flwyddyn newydd. Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi gwneud cais am weithdy ar gyfer staff ac Aelodau yn y dyfodol agos.

Mae’r meini prawf a ddefnyddir i asesu’r prosiectau cymunedol cynaliadwy hyn ar gyfer cymorth ariannol ac y cytunwyd gan Fwrdd PLANED, wedi eu coethi gan y Pwyllgor Llywio.

Gweithredu

Nod Menter Llunio’n Dyfodol yw galluogi cymunedau lleol i gymryd rhan, ymgymryd â, a hyrwyddo datblygiad lleol i sicrhau eu hyfywdra, yn gymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol yn y tymor hir. Bydd cymunedau sydd wedi ymgymryd â’r Pecyn Cymorth Cynaladwyedd fel rhan o’r broses Creu Gweledigaeth neu fel ymarfer ar wahân ac sydd wedi nodi prosiectau cynaliadwy fel rhan o’r broses hwnnw, yn derbyn cefnogaeth i ddatblygu a gweithredu’r prosiectau hynny.

Drwy sefydlu Fforymau Cymunedol, cydlynu a phartneriaid allweddol a chymunedau lleol, bydd PLANED yn annog datblygiad a gweithrediad Cynlluniau Gweithredu Lleol a Strategaethau Ardal. Bydd hyn yn cael ei ategu gan hyfforddiant, seminarau ac ymweliadau.


Bydd Menter Llunio’n Dyfodol yn annog gweithgareddau sy’n bodloni’r meini prawf canlynol:

Bydd angen i’r gweithgaredd hefyd fodloni o leiaf un o’r meini prawf canlynol:

Cefnogi’r Prosiect

Dan y fenter hon, bydd PLANED yn cefnogi prosiectau cymunedol cynaliadwy sydd wedi eu cynllunio i wella ansawdd bywyd, fel y canfuwyd drwy Gynlluniau Gweithredu Lleol ac a hyrwyddwyd gan Fforymau Cymunedol. Bydd cymorth ariannol ar gael tuag at:

Defnyddiwyd y meini prawf gan y Grŵp Cynghori mewn cyfarfodydd i asesu cynaladwyedd y prosiectau er mwyn iddynt dderbyn cyllid “Llunio’n Dyfodol” a rheoli’r gan PLANED. Erbyn Hydref 2007 cydnabuwyd dros ddeg ar hugain o brosiectau sy’n gymwys i dderbyn arian dan y fenter hon.

Gwybodaeth bellach:
Joan Asby, Cydlynydd
PLANED
Yr Hen Ysgol
Heol yr orsaf
Arberth
Sir Benfro
SA67 7DU

(0044) (0)1834 860965
Ffacs: (0044)(0)1834861547

   
   



I

I

I

I

I

I

I

I

I

I

\/

I

I

I

I

I

I

I

I

I

I

\/

I

I

I

I

I

I

I

I

I


\/

I

I

I

I

I

I

I

I

I

I

I

I

\/

I

I

I

I

I

I

I

I

I

\/

I

I

I

I

I

I

I

I

I

I

\/

I

I

I

I

I

I

I

I

I


\/

I

I

I

I

I

I

I

I

I

I

I

I

\/

I

I

I

I

I

I

I

I

I

\/

I

I

I

I

I

I

I

I

I

I

\/

PRYDWEDD DDOLENNI:
Bro Beca
Gwyliau Lonydd Glas
Lonydd Glas Sir Benfro
Prosiect Twigs