I
I
I
I
I
I
I
\/
I
I
I
I
I
I
\/
I
I
I
I
I
I
\/
I
I
I
I
I
I
\/
I
I
I
I
I
I
\/

Cymuned a Datblygiad Cynaliadwy
CEFNOGI CYMUNEDAU
Mae gan bob cymuned grwpiau ac unigolion gweithgar a allai ddod at ei gilydd mewn Fforwm Cymunedol - sef cynghorwyr, cynrychiolwyr cyrff lleol ee capeli ac eglwysi, y Ford Gron, Merched y Wawr, Clybiau Ffermwyr Ifanc. Bydd swyddogion PLANED yn eich helpu i ddatblygu neu adolygu eich Cynllun Gwaith Lleol.
Ein nôd yw helpu cymaint o gymunedau â phosib i glustnodi cyfleoedd a gweithredu prosiectau tymor hir, ac mae rhywfaint o arian gennym i'ch helpu.
LEADER+
Creu Diwylliant Entrepreneuraidd
Nôd rhaglen LEADER+ yw cryfhau economïau lleol wrth helpu cymunedau i glustnodi mentrau newydd yn seiliedig ar adnoddau lleol - y bobl eu hunain, yr etifeddiaeth naturiol a diwylliannol ac anghenion cymdeithasol ac economaidd. Yn y cyd-destun hwnnw mae PLANED wrthi'n sefydlu 15 Grwp Menter Cymunedol drwy'r sir, er mwyn helpu gweithredu proses fydd yn arwain at lunio Cynllun Gwaith Entrepreneuraidd. Y nôd fydd clustnodi cynnyrch a gwasanaethau fydd yn adeiladu ar gryfderau pob ardal ac y bydd modd eu cynnal yn y dyfodol. Bydd PLANED yn helpu pobl leol i weithredu'r prosiectau o fewn y cynllun - gan gynnig amser staff, arbenigedd, adnoddau a chyllid - er mwyn gweithredu syniadau.
Amaeth
Yn ei rôl fel cyd-drefnydd Cyswllt Ffermio, mae PLANED yn gweithredu fel dolen rhwng Cyswllt Ffermio a'r Gymuned Amaeth, gan helpu ffermwyr gyda gwasanaethau ac ymholiadau beunyddiol. Wrth adeiladu ar Gynllun Cymorth Ffermio SPARC, bydd PLANED yn parhau i gefnogi teuluoedd ffermio'r sir wrth glustnodi cyfleoedd newydd ar ac oddi ar ffermydd, yn benodol yn gysylltiedig â ffermio cynaliadwy.
Twristiaeth
Mae PLANED am helpu i ddatblygu cyfleoedd twristiaeth gynaliadwy, gan roi pwyslais ar dwristiaeth gilfach sy'n gweithredu gydol y flwyddyn ac yn dwyn at ei gilydd yr elfennau allweddol - pobl, yr amgylchedd a threftadaeth, a datblygiad yr economi.
Parchu'r Amgylchedd
Menter sy'n rhoi cyfle i bawb gyfrannu at ddiogelu a gwella amgylchedd gwerthfawr y sir er lles cenedlaethau'r dyfodol.
Cydweithio mewn Partneriaeth
PLANED - Pembrokeshire Local Action Network for Enterprise and Development - cwmni dielw sydd wedi'i gofrestru'n elusen. Mae'n gorff lleol sy'n dwyn cymunedau at ei gilydd, ynghyd ag amryw asiantaethau a rhwydweithiau cymorth sy'n gweithredu er lles pobl leol. Yn ogystal, mae PLANED yn cynrychioli proses a dull arbennig o weithio. Ei rôl yw gweithredu fel symbylydd, gweithredwr, rhwydweithiwr a datblygwr partneriaethau.
Er mwyn glynu at yr egwyddor o gydweithio mewn partneriaethau mae Bwrdd Rheoli PLANED yn cynnwys cynrychiolwyr o bob rhan o Sir Benfro ynghyd ag amrywiaeth eang o ddiddordebau. Mae'r aelodau yn cynnwys cyrff cymunedol, cynghorau Tref a Chymunedol, Grwpiau Arbenigol (twristiaeth, busnes a ffermio), Cyngor Sir Penfro, Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Awdurdod Datblygu Cymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, ELWA, Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro, Coleg Sir Benfro a chyrff celfyddydol ac amgylcheddol. Mae'r meddylfryd cynhwysol hwn yn sicrhau gwir bartneriaeth.