NOL
CARTREF
NESAF
Cymuned a Datblygiad Cynaliadwy PALNED

Cymuned a Datblygiad Cynaliadwy

YMDEIMLAD O LE

Beth sy'n arbennig ac yn unigryw ynglyn â'ch cymuned?

Mae cael ‘Ymdeimlad o Le' yn golygu teimlo bod cymuned a'i phobl yn arbennig ac yn wahanol i unrhyw le arall. Mae'n cynnwys:

Pobl sgiliau a gwybodaeth, diddordebau arbennig, straeon
Amgylchedd naturiol ac wedi'i adeiladu tirwedd a safleoedd o bwys, planhigion ac anifeiliaid, bioamrywiaeth
Etifeddiaeth a Diwylliant

Treftadaeth hanes lleol, traddodiadau, iaith a thafodieithoedd, chwedlau a llên gwerin

Gweithgareddau Cymunedol, Digwyddiadau a Gwyliau

Arddangosfeydd, regatas, carnifalau, eisteddfodau, sioeau amaethyddol, ffeiriau

Cynnyrch Lleol

bwyd a diod celf a chrefft

 

 

 

 

 

 

Beth am ddathlu ei hynodrwydd!

Mae Ymdeimlad o Le yn ymwneud â'r holl synhwyrau: yr hyn y gallwch ei weld, ei glywed, ei arogli, ei flasu a'i gyffwrdd.

Sut mae modd dathlu ‘Ymdeimlad o Le'?

Mae gan bob cymuned ei nodweddion arbennig ei hun, a gallant gyfrannu at ‘Ymdeimlad o Le'.

Er enghraifft, mae gan nifer o bobl sgiliau a diddordebau arbennig h.y. arlunio, adrodd straeon neu bysgota cwmpas ( compass fishing ). Mae'r rhain yn hynod a gallent gael eu rhannu â'r gymuned.

Mae treftadaeth yn aml yn ffynhonnell brwdfrydedd a balchder lleol. Gall ymchwilio i hanes lleol, ei ddehongli a'i ddathlu, arwain at nifer o weithgareddau sy'n gymorth i ddathlu ymdeimlad o le'r gymuned. Gall y rhain gynnwys pamffledi ar hanes lleol, paneli dehongli, arddangosfeydd a llwybrau.

Yn ogystal, gall gwyliau a digwyddiadau cymunedol wedi'u trefnu'n dda ddathlu a hybu ymdeimlad o le sy'n unigryw, er enghraifft, amgylchedd, treftadaeth, diwylliant neu gynnyrch lleol cymuned. Gall y rhain fod yn adnodd i dwristiaeth leol hefyd.

Annog Ymdeimlad o Le mewn Cymuned

Nod menter ‘Ymdeimlad o Le' PLANED yw cynorthwyo cymunedau i ddatblygu prosiectau a gweithgareddau sy'n dathlu hynodrwydd lleol.

Os hoffech chi neu'ch cymuned ddatblygu prosiect cymunedol sy'n dathlu'r ymdeimlad o le hwnnw, cysylltwch â:


PLANED
Yr Hen Ysgol
Heol yr Orsaf
Arberth
Sir Benfro SA67 7DU

Ffôn: 01834 862101Ffacs: 01834 861547
communities@planed.org.uk

 

Ariennir Rhaglen Naws am Le PLANED gan Gronfa Gweithredu dros Gymunedau Gwledig Llwyodraeth Cynulliad Cymru. Ariannwyd Prosiect RICCHH gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a chael ei gefnogi gan Archeoleg Cambria.
   
   

 

I

I

I

I

I

I

I

\/

I

I

I

I

I

I

\/

I

I

I

I

I

I

\/


I

I

I

I

I

I

\/


I

I

I

I

I

I

\/


I

I

I

I

I

I

\/


I

I

I

I

\/

I

I

I

I

I

I

\/


I

I

I

I

\/


NESAF

DOLENNI:
Gwyliau Cefn Gwlad Cymru
Gwyliau Lonydd Glas
Lonydd Glas Sir Benfro